top of page
Archway
Methodist Logo Red.png

Cylchdaith Fethodistaidd

Ceredigion

Croeso i wefan Cylchdaith Fethodistaidd Ceredigion.
Cylchdaith Fethodistaidd ydym ni yn sir Ceredigion. Mae gennym gapeli yn y ddwy dref brifysgol, Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan ac mae’r gylchdaith yn cwmpasu Ceredigion gyfan.

Ein Heglwysi

St Paul.jpg

Canolfan Fethodistaidd St Paul

ABERYSTWYTH

St Thomas.jpg

Eglwys Fethodistaidd
St Thomas

LLANBEDR PONT STEFFAN

Annwyl Gyfeillion

Croeso i wefan Cylchdaith Fethodistaidd Ceredigion.


Os ydych yn newydd i’r eglwys neu os ydych yn ymweld â’r ardal, gadewch inni eich croesawu i’r rhan hon o’r teulu Methodistaidd gan obeithio y gallwch ganfod cartref ysbrydol gyda ni. Mae’r holl wybodaeth sylfaenol am y gylchdaith a’n dwy eglwys i’w chael ar y wefan ond os hoffech gael gwybodaeth bellach mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r wefan.
​

Y Parchedig Flis Randall

Datganiad Cenhadaeth y Gylchdaith

Cael perthynas fyw â Duw trwy addoliad, annog ein gilydd i dyfu fel Cristnogion a byw’r Newydd Da am Iesu, gan rannu cariad diamod Duw tuag at bawb.  

Mae cynulleidfaoedd cymysg yn ein heglwysi, gydag aelodau a fu’n briod ers 60 mlynedd yn ogystal â myfyrwyr a theuluoedd ifanc. Mae gan bawb ei stori ei hun sy’n egluro pam mae arnynt eisiau gwybod am Dduw ac mae profiadau bywyd pawb yn wahanol. Yr hyn sy’n gyffredin i ni i gyd yw’r awydd i ddysgu mwy am Dduw, trwy ddysgeidiaeth Iesu ac awduron y Beibl.

Mae croeso cynnes i bawb, yn ymwelwyr a phobl sy’n byw yn yr ardal.

bottom of page