top of page
IMG_9306_edited.jpg

Pwy Ydym Ni

Y Gylchdaith

Mae gennym ddwy eglwys yn y gylchdaith sef Canolfan Fethodistaidd Sant Paul yn Aberystwyth ac Eglwys Sant Thomas yn Llanbedr Pont Steffan.

​

Arolygydd y gylchdaith yw’r Parchedig Flis Randall a hi yw arweinydd y timau sy’n pregethu a bugeilio o fewn y gylchdaith. Mae gennym bedwar uwchrif a phregethwyr lleol, rhai yn bregethwyr cydnabyddedig llawn a nifer sy’n hyfforddi. Rydym yn ymfalchïo bod nifer dda o bregethwyr lleol a hyfforddwyd yn y Gylchdaith wedi mynd ymlaen i wasanaethu’r Eglwys fel gweinidogion a diaconiaid. Defnyddir arweinyddion addoli hefyd o bryd i’w gilydd, yn enwedig pan gynhelir Lle Agored yn Sant Paul.

​

Mae’r gylchdaith hefyd yn darparu caplaniaeth Fethodistaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, yn ogystal ag Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Mae’r gylchdaith hefyd yn cydweithio â chartref Hafan Y Waun, Aberystwyth. Yn ogystal â’r trefniadau swyddogol hyn mae gan y ddwy eglwys lawer o gysylltiadau eraill yn lleol â grwpiau a mudiadau yn y gymuned.

​

Hysbysiad Preifatrwydd

​

Mae’r Gylchdaith a’i heglwysi yn dilyn Hysbysiad Preifatrwydd yr Ymddiriedolwyr Rheolaethol, a ddarparwyd gan yr Ymddiriedolwyr dros Ddibenion yr Eglwys Fethodistaidd (TMCP).

Mae’r hysbysiad ar gael ar-lein a bydd copïau ar gael yn yr eglwysi.

About the Cicuit

Hanes Wesleaeth

Er mai Cylchdaith Saesneg yw Cylchdaith Ceredigion yn awr, mae ei hanes ynghlwm yn annatod â Wesleaeth Gymraeg yn y sir hon.

​

Wesleaeth Gymraeg

Tair gwaith yn unig yr ymwelodd John Wesley â Cheredigion (Sir Aberteifi gynt) a’r rheini’n ymweliadau byr. Ni sefydlodd unrhyw seiat neu gynulleidfa yma. Gan mai Cymraeg oedd unig iaith y rhan fwyaf o’r bobl, byddai wedi bod yn anodd iddo wneud llawer o argraff. Yn 1800, fodd bynnag, cytunodd y Gynhadledd Wesleaidd i anfon cenhadon Cymraeg eu hiaith i Gymru. Yn 1804 daeth pregethwyr ar ymweliad ag Aberystwyth ac yn 1805 fe ffurfiwyd seiat. Erbyn 1811 roedd wyth capel Wesleaidd Cymraeg yn y sir. Roedd llewyrch ar y gwaith drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn ei anterth, yn dilyn Diwygiad 1859, roedd yma 1264 o aelodau. Erbyn 1900 roedd pedair Cylchdaith Gymraeg sef cylchdeithiau Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Ystumtuen ac Aberaeron, gyda bron i 1200 o aelodau rhyngddynt. Cynyddodd yr aelodaeth am gyfnod byr yn ystod Diwygiad 1904-5, ond lleihad cyson a welwyd ers 1910. Bellach pedair cynulleidfa Fethodistaidd Gymraeg fach sydd yn y sir.

​

Gwaith Saesneg yr Eglwys Fethodistaidd

O’r 1840au ymlaen y gwelwyd twf y gwaith Saesneg. Daeth teithio’n haws ac fe dyfodd y diwydiant mwyngloddio plwm yn rhan ogleddol y sir; yn sgil hynny fe gyrhaeddodd ymwelwyr a gweithwyr o’r tu allan i Gymru. Gwaharddwyd y Gymraeg mewn ysgolion yn dilyn Deddf Addysg 1870 a dyna un ffactor a arweiniodd at oruchafiaeth y Saesneg.

​

Cyfarfu’r criw bach cyntaf o Wesleaid Saesneg yn Aberystwyth a gofalwyd amdanynt o fewn y gynulleidfa Gymraeg. Yn 1845 agorodd y gynulleidfa Gymraeg adeilad arall (sef Neuadd Gwrdd Byddin yr Iachawdwriaeth yn awr) i wasanaethu fel ysgol ddyddiol a chapel Saesneg. Yn 1870 adeiladodd y gynulleidfa Saesneg gapel newydd ym Morfa Mawr. Roedd y mwyngloddiau plwm yng ngogledd y sir yn ffynnu yn ystod y 1840au a than y 1860au; o ganlyniad daeth mwynwyr yno o Gernyw, rhai ohonynt yn Wesleaid. Dyna pam y ffurfiwyd Cylchdaith Mwyngloddiau Lisburne yn 1859, a ailenwyd yn fuan yn Gylchdaith Goginan a Mwyngloddiau Lisburne. Yn ogystal â dau gapel, roedd gan y Gylchdaith seiadau yng Nghwmsymlog a Chwmystwyth. Erbyn 1879 daeth trai yn hanes y mwyngloddiau a daeth yr ychydig aelodau oedd ar ôl yn rhan o Gylchdaith Saesneg Aberystwyth. Roedd seiat yn y Borth hefyd a oedd yn rhan o Gylchdaith Aberystwyth, er i honno ddod i ben mae’n debyg erbyn 1890.

​

Cynulleidfa Aberystwyth oedd yr unig un yn y Gylchdaith erbyn 1900, gyda 95 o aelodau. Yn 1934 ffurfiwyd seiat ym Mhenparcau ac agorwyd capel yn 1954. Goroesodd y seiat honno tan 2013. Yn 1978 trosglwyddodd cynulleidfa Llanbedr Pont Steffan o’r gylchdaith Gymraeg i’r un Saesneg. Yn 1996 ffurfiwyd seiat newydd yn Nhregaron, a gafodd gydnabyddiaeth lawn yn 2002. Ar ddechrau’r 1990au dymchwelwyd capeli Aberystwyth a Llambed ac adeiladwyd capeli newydd ar yr un safleoedd. Yn adeilad Aberystwyth, sef Canolfan Fethodistaidd Sant Paul, mae’r cynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg yn cwrdd.

​

Yn 1994 fe unodd y cylchdeithiau Cymraeg a Saesneg gan ffurfio Cylchdaith Ceredigion oedd yn gylchdaith ddwyieithog gyda chyfanswm o ryw 400 o aelodau. Parhaodd y trefniant hwn tan 2010 pan ad-drefnwyd Wesleaeth Gymraeg gyda’r cynulleidfaoedd Cymraeg yn dod yn rhan o gylchdaith Gymraeg, Cylchdaith Cymru. Dwy gynulleidfa Saesneg sydd yng Nghylchdaith Ceredigion yn awr - Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan.

Methodist History

Cysylltu

Canolfan Fethodistaidd Sant Paul

Morfa Mawr, Aberystwyth,

Ceredigion, SY23 2NN

​

01970 626703

(Swyddfa ar agor Dydd Mawrth a Dydd Iau)

​

Cysylltwch â’r Arolygydd:

Y Parchedig Flis Randall

IMG_9071_edited.jpg
Contact
bottom of page