top of page
Croeso.jpg

Y Gymuned

Caffi Talu Fel Y Dymunwch Sant Paul

Bwyd yn Apelio Atoch? Gwastraff yn Gas Gennych? Dewch i ymuno â ni amser cinio dydd Mawrth a dydd Iau, yng Nghaffi Talu Fel Y Dymunwch Sant Paul

​

Mae croeso i bawb i ddod am ginio poeth a baratoir yn ffres gan ddefnyddio bwyd sydd gan yr archfarchnadoedd lleol dros ben. Talwch beth bynnag mae’r bwyd ei werth yn eich barn chi, yn ôl fel rydych yn gallu fforddio!

​

Dydd Mawrth a dydd Iau 11am – 2pm. Bwyd Poeth o 12 ymlaen

​

​

YnglÅ·n â’r Caffi

Sefydlwyd y caffi yn 2017 ar ôl sylweddoli fod yr archfarchnadoedd lleol yn lluchio llwyth o fwyd oedd ganddynt dros ben, pan oedd y bwyd hwnnw’n berffaith fwytadwy. Mewn cydweithrediad â’r elusen leol Bwyd Dros Ben Aber, dechreuodd criw bach o wirfoddolwyr yn Sant Paul ddefnyddio’r bwyd oedd dros ben er mwyn paratoi prydau maethlon a blasus i’r gymuned leol. (Bellach mae 20 o wirfoddolwyr a rhyngom rydym yn coginio pryd ddwywaith yr wythnos ar gyfer tu 35 o bobl).

 

Ein bwriad yw cynnig lle cynnes a chroesawus a rhoi pryd poeth, maethlon i bobl yn ein cymuned leol. Cewch dalu fel y dewiswch ac felly ni fydd neb yn gorfod cadw draw am ei fod yn cael anhawster i dalu.

​

Os hoffech wirfoddoli gyda ni cysylltwch os gwelwch yn dda (rydym yn dilyn polisi recriwtio diogel a bydd yn rhaid i wirfoddolwyr gan DBS)

PAYF
St Thomas Coffee Morning_edited.jpg
Warm Spaces

Croeso Cynnes

Mae ein heglwysi yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan wedi’u cofrestru gyda’r Rhwydwaith Croeso Cynnes cenedlaethol a phrosiect Croeso Cynnes Cyswllt Ceredigion (dolen).

​

Canolfan Fethodistaidd Sant Paul

Morfa Mawr, Aberystwyth, SY23 2NN

Mae Sant Paul yn lle swyddogol ar gyfer Croeso Cynnes ac mae’n cynnig cynhesrwydd a lletygarwch yn y Caffi Talu Fel Y Dymunwch ar ddydd Mawrth a dydd Iau (11am-2pm) ac yn y Noson Gemau ar nos Wener (7-9pm).

​

​

Eglwys Fethodistaidd Sant Thomas

Stryd Sant Thomas, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7DQ

Mae Sant Thomas yn cynnig lle cynnes, croesawus i gymdeithasu gyda Bore Coffi ar ddydd Mawrth. Gweinir te, coffi a bisgedi (10am-12pm)

Octagon.jpg

Lle i’r Gymuned a Llogi Ystafelloedd

Trwy gydol yr wytynos mae llawer o weithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynnal yn ein hadeiladau – yn weithgareddau’r eglwysi eu hunain a llawer o wahanol weithgareddau cymunedol.

​

Mae nifer o wahanol ystafelloedd a chyfleusterau ar gael i’w llogi yn y ddau gapel.

Gweler y tudalennau ynglÅ·n â llogi ystafelloedd i gael gwybodaeth bellach.

Community Space
bottom of page