top of page
Octagon

Llogi Ystafell yn Sant Paul

Mae sawl ystafell a gofod ar gael i’w llogi yng Nghanolfan Fethodistaidd Sant Paul yn Aberystwyth, yn rheolaidd neu yn achlysurol.

Rydym yn falch o gael cynnig ein hadeilad at ddefnydd llawer o elusennau a grwpiau cymunedol.
Mae’r cyfan yn gynnes a hygyrch ac nid oes grisiau i’r fynedfa flaen. Mae lifft i’r llawr uchaf.
Dyma restr o’r llefydd sydd ar gael:

Ein Hystafelloedd

Main Hall

Y Brif Neuadd

Llawr Gwaelod

O £22 /awr

Octagon

Yr Octagon

Llawr Cyntaf

 O £17.50 /awr

Concourse

Y Cyntedd

Llawr Gwaelod

O £11 /awr

Room 2

Ystafell 2

Llawr Cyntaf

O £5 /awr

Kitchen

Y Cegin

Llawr Gwaelod

O £11 /Sesiwn

Room 3

Ystafell 3

Llawer Cyntaf

O £5.50 /awr

Lounge

Y Lolfa

Llawr Gwaelod

O £5 /awr

Taliadau am Logi Ystafelloedd

Room
Hire Charge (Charity Rate)
Hire Charge (Non-Charity Rate)
Concourse
£11.00 / hour
£16.50 / hour
Kitchen
£11.00 / session
£15.00 / session
Room 3 (First Floor)
£5.50 / hour
£8.00 / hour
Room 2 (First Floor)
£5.00 / hour
£7.50 / hour
Octagon Hall (Restricted)
£17.50 / hour
£22.00 / hour
Lounge
£5.00 / hour
£7.50 / hour
Main Hall
£22.00 / hour
£ 30.00 / hour

Sut i Fwcio Ystafell 

Os hoffech fwcio ystafell neu dderbyn gwybodaeth bellach, llenwch y ffurflen isod gyda’ch ymholiad neu cysylltwch yn uniongyrchol â’r Tîm Bwcio Ystafelloedd yn stpaulsbookings@gmail.com

Ystafell
14:30

(mae hon yn ffurflen ryngweithiol a gallwch ei llenwi yn uniongyrchol mewn Microsoft Word neu ei hargraffu a’i llenwi â llaw)

Mae’n rhaid i bob grŵp sy’n dymuno bwcio ystafell gyda ni ddarllen yr amodau a’r telerau isod yn llawn a chytuno i gadw atynt os bydd eich cais yn llwyddiannus.

Mae’n rhaid i bob grŵp hefyd ddarparu copi o’u polisi diogelu ar gyfer yr ystafell y maent yn dymuno ei defnyddio.

1. Mae gan yr Eglwys Bolisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac mae’n ofynnol i bawb sy’n defnyddio’r adeilad gadw at y polisi hwn, sydd i’w weld yma. Rydym yn awyddus iawn i bawb deimlo’n gyfforddus yma a bod croeso a darpariaeth addas ar eu cyfer. Gan hynny, byddwn yn falch os rhowch wybod am unrhyw beth nad ydych yn ei gael yn foddhaol fel y gallwn roi sylw iddo yn syth. Os gwelwch yn dda, gadewch yr adeilad yn yr un cyflwr ag y’i cawsoch. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i ni allu cynnal safon uchel ar gyfer pawb sy’n defnyddio’r adeilad. Yn arbennig, gofalwch eich bod yn

​​a) Gadael yr adeilad yn lân ac yn daclus, heb adael unrhyw sbwriel ar ôl​;

b) Gadael yr ystafell(oedd) wedi eu gosod allan fel y’u cawsoch oni chytunwyd yn wahanol. Ni ddylech achosi na chaniatáu achosi unrhyw ddifrod i’r adeilad nac i eiddo cyfagos;

c) Defnyddio blutac (nid tâp selo) i osod posteri/arwyddion ar ddrysau/ffenestri gwydr. Tynnwch nhw i lawr cyn gadael. Peidiwch â glynu dim byd ar y briciau (y tu mewn na thu allan);

ch) Y sawl sy’n llogi fydd yn gyfrifol am, ac sy’n gorfod talu am, unrhyw ddifrod i’r adeilad ei hun neu unrhyw offer a ddarperir.​

2. Os codir tâl ar bobl am ddod i’ch digwyddiad, casglwch yr arian y tu mewn i’r adeilad os gwelwch yn dda neu fel ‘tâl mynediad’ wrth y drws. Er enghraifft, dylai pobl dalu am goffi wrth yr agoriad o’r gegin pan fyddant yn ei gael.

3. ​Diogelwch yr Adeilad. Cofiwch fod angen cadw pawb yn ddiogel pan fydd eich grŵp yn defnyddio’r adeilad. Efallai y bydd angen cloi’r drws blaen yn ystod eich cyfarfod. Ni ddylid rhwystro drysau tân mewn unrhyw fodd ac fel rheol byddant yn cael eu cadw ar gau. Os gwelwch ddrws tân yn agored, caewch ef yn syth, yn enwedig cyn i chi fynd o’r adeilad.

4. Diogelu Pobl Ifanc. Rhowch wybod i’r Ysgrifennydd Llogi Ystafelloedd os gwelwch yn dda os bydd plant dan 18 oed neu oedolion agored i niwed yn cymryd rhan yn eich gweithgaredd. Mae angen i unrhyw grŵp sydd â phlant dan 18 oed neu oedolion agored i niwed fod â’i bolisi diogelu ei hun, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â Chod Ymarfer ‘Diogel rhag Niwed’ y Swyddfa Gartref. Bydd angen iddynt hefyd lofnodi Datganiad Diogelu i ddangos eu bod yn deall hyn. Mae’r Eglwys Fethodistaidd hefyd wedi datblygu Polisïau Diogelu yn unol â Chod Ymarfer y llywodraeth:Polisi Diogelu Canolfan Fethodistaidd Sant Paul. Os nad ydych yn glir beth yw eich cyfrifoldebau, cofiwch holi. Pan fydd grŵp o’r fath yn defnyddio’r adeilad, ni fydd rhannau o’r adeilad, ac weithiau yr adeilad cyfan, ar gael i unrhyw un arall eu defnyddio.

5. Tân. Mae offer diffodd tân (dŵr, ewyn a CO2) ar ddau lawr yr adeilad. Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae’r offer diffodd tân a’r allanfeydd argyfwng. Gofalwch fod pob allanfa argyfwng a phob llwybr atynt yn cael eu cadw’n glir. Mae blwch rheoli larwm tân ger pob drws allan o’r adeilad a gellir eu defnyddio mewn argyfwng i weithredu’r larwm. Mae Cadair Achub yn y coridor i fyny’r grisiau. Sicrhewch fod y frigâd dân yn cael ei galw allan os bydd tân, pa mor fach bynnag y bo, a rhowch wybod i’r ysgrifennydd llogi ystafelloedd cyn gynted ag y bo modd. Darllenwch hefyd ein Polisi ‘Os Bydd Tân’.

6. Iechyd a Diogelwch Dylech gydymffurfio â’r darpariaethau iechyd a diogelwch perthnasol. Yn arbennig:

a) Sicrhewch fod unrhyw offer trydanol a ddygir i’r adeilad wedi cael prawf PAT, eu bod mewn cyflwr da a diogel ac y byddant yn cael eu defnyddio’n ddiogel.

Defnyddiwch orchuddion ceblau os gwelwch yn dda. Maent i’w cael o’r stordy yn ymyl yr organ yn y Brif Neuadd.

b) Peidiwch â dod ag unrhyw sylweddau tra fflamadwy i mewn i’r adeilad.

c) Peidiwch â gosod addurniadau yn ymyl goleuadau a gwresogyddion.

ch) Peidiwch â dod ag offer gwresogi i mewn i’r adeilad heb ganiatâd yr ymddiriedolwyr rheolaethol.

d) rhowch wybod cyn gynted ag y bo modd i’r ysgrifennydd llogi ystafelloedd am bob damwain lle cafodd aelod o’r cyhoedd niwed.

7. Atebolrwydd am Ddifrod. Mae darpariaeth gyfyngedig ym mholisi yswiriant yr Eglwys ar gyfer defnydd achlysurol gan grwpiau o’r tu allan i’r eglwys. Dylai defnyddwyr rheolaidd fod ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus eu hunain ar gyfer yr holl amser y byddant yn defnyddio’r adeilad,

8. Trwyddedau. Os oes angen unrhyw drwydded ar gyfer gweithgaredd y bwriedir ei gynnal yn yr adeilad, mewn perthynas â defnydd y sawl sy’n llogi’r adeilad, rhaid i’r sawl sy’n llogi sicrhau bod y drwydded briodol ganddynt.

9. Y Gegin. Mae’r gegin ar gael i’w llogi. Mae croeso i chi ddefnyddio’r llestri ond mae’n rhaid i chi ddod â’ch bwyd a’ch diod eich hun. Os oes bwyd a diod yn y gegin yn barod, mae at ddefnydd staff y bar coffi yn unig. Dylech ufuddhau i bob deddfwriaeth iechyd a hylendid bwyd perthnasol mewn perthynas â pharatoi a gweini bwyd. At ddefnydd argyfwng yn unig y mae’r ffôn yn y gegin.

10. Cyfyngiadau. Ni chaniateir defnyddio’r adeilad at unrhyw ddiben heblaw yr hyn a nodwyd wrth fwcio’r digwyddiad. Yn arbennig, ni chaniateir ei ddefnyddio at unrhyw ddiben a all wrthdaro â dysgeidiaeth Gristnogol gan gynnwys, er enghraifft, dathlu Nos Calan Gaeaf. Mae Gweithred yr Eglwys Fethodistaidd y sefydlwyd yr adeilad arni yn cynnwys y cyfyngiadau a ganlyn ac mae’n rhaid cydymffurfio â’r rhain:

a) Ni chaniateir dod ag alcohol i mewn i’r adeilad at unrhyw ddiben, gan gynnwys gwerthu, yfed neu gynnig fel gwobr. Ni chaniateir i raffl gynnwys gwobrau ariannol ac ni ddylai cyfanswm yr arian sy’n cael ei wario ar wobrau a chost trefnu’r raffl fod yn fwy na £50. Nid yw hyn yn cynnwys gwobrau a roddir fel rhoddion. Dim ond tra bydd y digwyddiad ei hun ymlaen y caniateir gwerthu tocynnau a hynny yn yr adeilad.

b) Yn unol â deddfwriaeth y llywodraeth ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw ran o’r adeilad (gan gynnwys y toiledau!).

c) O barch at ein cymdogion, ni ddylid chwarae cerddoriaeth uchel ar ôl 10pm.

ch) Ni chaiff y sawl sy’n llogi ganiatáu i unrhyw anifeiliaid (gan gynnwys adar) ddod i mewn i’r adeilad (ac eithrio cŵn tywys, cŵn clywed a chŵn cymorth cydnabyddedig) heb gymeradwyaeth ysgrifenedig yr Ymddiriedolwyr Rheolaethol.

11. Canslo Os bydd raid i chi ganslo’r trefniadau ar ôl i chi logi ystafell, rhowch wybod yn syth i’r ysgrifennydd llogi ystafelloedd, os gwelwch yn dda. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth gwrs ar yr adegau o’r flwyddyn pan fydd yr adeilad yn cael ei dwymo. Mae canslo yn gofyn am o leiaf 48 awr o rybudd neu efallai y codir tâl.

 

12. Diwedd eich sesiwn.

a) Dylai’r sawl sy’n llogi ystafell fynd ag unrhyw offer/eiddo y daethpwyd ag ef i’r adeilad oddi yno pan ddaw’r sesiwn i ben. Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am eitemau a adewir yn yr adeilad a cheir gwared ag unrhyw eitemau o’r fath ar ôl 14 diwrnod gyda’r sawl a logodd ystafell i dalu unrhyw gostau o waredu’r eitemau.

b) Os gwelwch yn dda, rhowch unrhyw sbwriel a deunydd sydd i’w ailgylchu o’r biniau yn y gegin yn y biniau priodol yn union y tu allan i ddrws tân y brif neuadd (mae sbwriel yn cael ei gasglu ar ddydd Mawrth).

c) Wrth fynd o’r adeilad, sicrhewch fod y drysau a’r ffenestri wedi eu cloi yn ddiogel a phob golau wedi ei ddiffodd. Dylai’r person olaf sy’n gadael yr adeilad gloi’r prif ddrws, gadael yr allwedd yn y blwch allweddi a mynd allan drwy’r drws tân yn y coridor i lawr y grisiau, gan ei gau’n gadarn y tu ôl i chi. (Os oes cyfarfod yn dal ymlaen i fyny’r grisiau a’i bod yn dywyll y tu allan, dylid gadael goleuadau’r grisiau arnodd). Cofiwch fod yn gwrtais hefyd tuag at grwpiau sy’n cyfarfod mewn ystafelloedd eraill drwy beidio â gwneud sŵn wrth fynd i mewn neu allan o ystafelloedd cyfarfod.​​

13. Cyfyngiad ar Atebolrwydd yr Ymddiriedolwyr Rheolaethol Mae pob trefniant llogi yn ddarostyngedig i gytundeb Grŵp yr Ymddiriedolwyr Rheolaethol.

13.1 Yn amodol ar gymal 13.2, nid yw’r Ymddiriedolwyr Rheolaethol yn atebol am:

a) Farwolaeth neu anaf i’r sawl sy’n llogi, ei gyflogeion, cwsmeriaid neu wahoddedigion yn yr Adeilad; na

b) Difrod i unrhyw beth sy’n eiddo i’r sawl sy’n llogi, ei gyflogeion, cwsmeriaid neu wahoddedigion yn yr Adeilad; nac

c) Unrhyw golled, hawliad, galw, gweithred, gweithdrefn, niwed, costau neu dreuliau nac unrhyw rwymedigaeth arall a ddaeth i ran y sawl sy’n llogi, ei gyflogeion, cwsmeriaid neu wahoddedigion eraill yn yr Adeilad. 13.2 Ni fydd dim byd yng nghymal 13.1 yn cyfyngu ar nac yn cau allan atebolrwydd yr Ymddiriedolwyr Rheolaethol am:

  • a) Farwolaeth neu anaf personol neu ddifrod i eiddo a achosir gan esgeulustod yr Ymddiriedolwyr Rheolaethol neu eu cyflogeion neu asiantau

  • b) Unrhyw fater y byddai’n anghyfreithlon i’r Ymddiriedolwyr Rheolaethol gau allan neu gyfyngu atebolrwydd mewn perthynas â hwy.

Os hoffech logi ystafell, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Ysgrifennydd Llogi Ystafelloedd ar stpaulsbookings@gmail.com

Ffurflenni llogi ystafelloedd i’w cael yma

Ar foreau Sul mae oedfa Gymraeg yn cael ei chynnal a hefyd oedfa Saesneg. Bydd croeso cynnes i chi os dymunwch ddod i ymuno yn yr addoliad.

General Regulations
bottom of page