top of page
Image by Ryan Wallace

Pobl Ifanc a Myfyrwyr

Mae digon o bethau ymlaen ar gyfer pobl ifanc yn ein capeli. Mae Sant Paul hefyd yn rhedeg llawer o weithgareddau i fyfyrwyr yn ystod y tymor. Cliciwch ar y dolenni i gael gwybodaeth bellach.

Junior Church

Ysgol Sul (Sant Paul)

Manylion i’w cael yn fuan

Youth Work at St Paul's.png
Youth Work

Gwaith Ieuenctid

Ieuenctid ar fore Sul yn Sant Paul

​

Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn cyfarfod yn rheolaidd am 10:30 ar fore Sul, tra bydd oedfa’r bore ymlaen. Byddwn yn edrych ar y Beibl, yn chwarae gemau ac yn cael rhywbeth i’w fwyta a’i yfed. Ambell dro byddwn yn mynd allan i lefydd – buom ar benwythnos gweithgareddau awyr agored ac i ddigwyddiad ieuenctid cenedlaethol Methodistaidd yn ystod y flwyddyn diwethaf. Mae croeso mawr i chi ymuno â ni os ydych o oedran ysgol uwchradd.

Lighthouse S&P Website Header.jpg
Lighthouse S&P

Goleudy Aros a Chwarae

Dewch atom i ymuno yn yr hwyl Goleudy Aros a Chwarae,

Ar ôl naw mlynedd wych, daeth ein gweinidogaeth LlanLlanast i ben. Yn lle’r

weinidogaeth hon yn awr byddwn yn dechrau menter newydd gyffrous, sef

Goleudy Aros a Chwarae, cyfres o ddigwyddiadau tymhorol i bob oed – rhywbeth

gwahanol bob tro

 

Byddwn yn rheolaidd yn cynnal Stondin Goleudy Aros a Chwarae yn nigwyddiad

Cynnau Goleuadau Nadolig Aberystwyth ddiwedd Tachwedd neu ddechrau

Rhagfyr. Hefyd ym mis Mehefin neu Orffennaf mae gennym stondin yn Ffair Haf

Menter Aberystwyth.

 

Os hoffech wybod mwy, cofiwch gysylltu â ni

Image by Jordan Ling
Students

Myfyrwyr

Mae Sant Paul o fewn pellter cerdded i Brifysgol Aberystwyth

ac rydym wrth ein boddau ein bod yn cael bod yn gyd-ddisgyblion i’r Iesu gyda myfyrwyr y Brifysgol.

​

Mae perthynas rhwng Sant Paul a’r Brifysgol ers blynyddoedd maith ac mae myfyrwyr yn mwynhau addoli gyda ni ar foreau Sul. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn chwarae yn ein band.

​

Rydym hefyd yn cynnal nifer o weithgareddau wythnosol gyda myfyrwyr mewn golwg. Cynhelir popeth yn y capel oni nodir yn wahanol.

 

Man Agored

Nos Sul 5pm yn ystod y tymor. Addoliad cyfoes a pherthnasol ac yna bwyd poeth am ddim.

​

Mans ar nos Lun 

Nos Lun 6.30 - 8.30 yn ystod y tymor. Pryd o fwyd poeth am ddim a chyfle i gymdeithasu â myfyrwyr eraill. Rydym ar hyn o bryd yn St Paul's. Cysylltwch â’r eglwys am fanylion pellach.

​

Noson Gemau

Nos Wener 7-9 yn ystod y tymor. Gemau bwrdd, tenis bwrdd a pŵl.

Te a choffi ar gael.

Image by Jelleke Vanooteghem
Baby Boogie

Baby Boogie

Dewch i ymuno â ni!

Grŵp cyfeillgar i fabanod a phlant bach a gynhelir yn Sant Paul. Rydym yn cyfarfod bob bore Iau yn ystod y tymor i ganu, chwarae, cael byrbryd a gwneud ffrindiau.

​

9:30am - 11am Dydd Iau yn ystod y tymor. Gofynnir am £1 o rodd gan bob teulu.

​

Ewch i’n grŵp Facebook "Baby Boogie Aberystwyth"

Llangeitho.jpg
Sausage Sunday

Selsig Sul & Ysgol Sul

Llangeitho

Manylion i’w cael yn fuan

bottom of page