top of page
St Thomas.jpg

Sant Thomas
Eglwys Fethodistaidd

Stryd Sant Thomas, Llabedr Pont Steffan SA48 7DQ
Addoli Bore Sul

Gwasaneath Saesneg 10:30yb

St Thomas' General

Am Sant Thomas

Croeso i Eglwys Fethodistaidd Sant Thomas. Adeiladwyd y capel Methodistaidd cyntaf yn Llanbedr Pont Steffan yn 1806, mewn lleoliad bellach yn rhan o diroedd y Brifysgol. Yn ein safle presennol fe adeiladwyd y capel Wesleaidd Cymraeg cyntaf yn 1828 a’i ailadeiladu yn 1875. Yn 1983, am nifer o resymau, gofynnodd yr aelodau i’r eglwys gael ei throsglwyddo i’r Gylchdaith Saesneg.

​

Dros y blynyddoedd fe ddirywiodd yr adeilad a chyda nifer yr aelodau lleol yn ddim ond 22, gwnaed y penderfyniad dewr i ddymchwel yr adeilad ac adeiladu o’r newydd ar yr un safle. Tra oedd y gwaith yn cael ei wneud, rhwng Mai 1991 a Tachwedd 1992, buom yn cynnal gwasanaethau yn neuadd eglwys Sant Pedr, trwy ganiatâd caredig ein cyfeillion Anglicanaidd. Yn Rhagfyr 1992, agorwyd yr adeilad hwn.

​

Oddi ar hynny mae’n bleser mawr gennym ddweud fod yr aelodaeth a’r nifer sy’n mynychu’r capel wedi cynyddu ac rydym bellach yn eglwys deuluol lewyrchus gydag aelodau o sawl cefndir eglwysig ac o bob cwr o’r byd.

Croeso Cynnes

Mae Sant Thomas yn cynnig lle cynnes, croesawus i gymdeithasu gyda Bore Coffi ar Ddydd Mawrth. Gweinir te, coffi a bisgedi (10am-12pm). Mae’r eglwys wedi ei chofrestru gyda’r Rhwydwaith Croeso Cynnes cenedlaethol a phrosiect Croeso Cynnes Cyswllt Ceredigion.

Mae Sant Thomas yn parchu POB agwedd ar BAWB gan gynnwys hil, ethnigrwydd, ffydd, rhywedd, hunaniaeth, cyfeiriadedd, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl neu gorfforol, amgylchiadau teuluol, cefndir cymdeithasol neu economaidd, oedran, gallu a maint.

​

Dyma Le Diogel I Fod Yn Chi Eich Hun

​

Mae Sant Thomas wedi ymrwymo i gydraddoldeb o ran priodas ac rydym wedi ein cofrestru i gynnal priodasau un rhyw.

Gweithgareddau Rheolaidd yn Eglwys Sant Thomas

St Thomas Coffee Morning.jpg

Bore Coffi Wythnosol

Dydd Mawrth

10:00yb - 12:00yp

Art.jpg

Grŵp Creadigol

2il Ddydd Mawrth

1:00yb - 3:00yp

Reading Bible

Astudiaeth Feiblaidd Fisol

1ad Dydd Mawrth

1:00pm - 3:00pm

IMG_8634.JPG

Digwyddiadau i Godi Arian

Fel y’u hysbysebir

​

Cysylltu

Eglwys Fethodistaidd Sant Thomas

Stryd Sant Thomas, Llabedr Pont Steffan, Ceredigion, SY48 7DQ

01970 626703

(Swyddfa ar Agor Dydd Mawrth a Dydd Iau)

Cyhoeddiadau

Tanysgrifiwch i dderbyn ein Cyhoeddiadau bob wythnos ac fe gewch ein holl newyddion diweddaraf drwy e-bost bob penwythnos.

​

I roi eich enw ar y rhestr er mwyn derbyn ein Cyhoeddiadau, cliciwch y botwm isod neu cysylltwch â’r swyddfa.

Llogi Ystafelloedd

Mae nifer o fudiadau yn defnyddio ein hadeilad yn ystod yr wythnos.

 

Rydym yn croesawu grwpiau cymunedol a hoffai ddefnyddio ein hadeilad.

​

Os hoffech ddefnyddio unrhyw ran o’r adeilad neu drafod trefniadau i logi lle yn rheolaidd, Cliciwch Yma

bottom of page