top of page
St Paul.jpg

Sant Paul Canolfan Fethodistiadd

Morfa Mawr, Aberystwyth, SY23 2NN
 
Addoliad Bore Sul

Gwasanaeth Cymraeg 10:30yb

Gwasanaeth Saesneg 10:30yb

​

Addoliad Nos Sul

Man Agored 5:00ypm (Amser Tymor)

​

St Paul's General

Am Sant Paul

Croeso i Ganolfan Fethodistaidd Sant Paul yn Aberystwyth.

Dyma lle mae’r eglwysi Methodistaidd Cymraeg a Saesneg yn cyfarfod yn Aberystwyth. Agorwyd Sant Paul yn 1992 a dyma’r capel mwyaf newydd yn y dref. Mae mewn lleoliad hwylus yn agos at ganol tref Aberystwyth.

​

Rydym yn griw o bobl fywiog, dwymgalon ac amrywiol sydd yn dod ynghyd i ddysgu a thyfu fel Cristnogion. Mae gennym lawer o weithgareddau gan gynnwys Grwpiau TÅ·, Astudiaethau Beiblaidd, Grwpiau Gweddi a chyrsiau wyneb-yn-wyneb a rhithiol.

​

Bob dydd Sul byddwn yn cynnal gwasanaethau Cymraeg a Saesneg gyda dulliau addoli traddodiadol a modern. Rydym hefyd wedi cynhyrchu gwasanaethau addoli ar-lein sydd ar gael ar ein sianel YouTube Gylchdeithiol.

Mae Sant Paul yn eglwys gymunedol sy’n gwbl gynhwysol ac mae “ar y stryd” gyda’n Caffi Talu Fel y Dymunwch bob Dydd Mawrth a Dydd Iau, Man Agored, Goleudy Aros a Chwarae a llawer o weithgareddau rheolaidd drwy’r wythnos. At hynny, mae amryw byd o bobl yn defnyddio ein hadeilad cyfforddus, hygyrch yn rheolaidd.

​

Croeso Cynnes

Mae Sant Paul yn swyddogol yn lle ar gyfer cynnig Croeso Cynnes ac mae cynhesrwydd a lletygarwch i’w cael drwy’r Caffi Talu Fel y Dymunwch ar ddydd Mawrth a dydd Iau (11am-2pm) a Noson Gemau ar nos Wener (7-9pm). Mae’r capel wedi’i gofrestru gyda’r Rhwydwaith Croeso Cynnes cenedlaethol a phrosiect Croeso Cynnes Cysylltu Ceredigion.

Hygyrchedd a Chynhwysiant

Mae ein canolfan yn gwbl hygyrch gan gynnwys mynedfa heb risiau, toiled hygyrch ar y llawr gwaelod gyda chyfleusterau newid plant a lifft i’r llawr uchaf;
Mae ein hystafelloedd ymolchi yn niwtral o ran rhywedd.

Mae gennym ddolen glyw wedi'i gosod yn y Brif Neuadd a'r Octagon ar y llawr uchaf. Mae gwasanaethau addoli ar-lein wedi'u cynhyrchu ar gyfer methu â mynychu'r eglwys yn bersonol.

 

Mae Sant Paul yn parchu POB agwedd ar BAWB gan gynnwys hil, ethnigrwydd, ffydd, rhywedd, hunaniaeth, cyfeiriadedd, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl neu gorfforol, amgylchiadau teuluol, cefndir cymdeithasol neu economaidd, oedran, gallu a maint.

​

Dyma le diogel i fod yn chi eich hun.

​

Mae Sant Paul wedi ymrwymo i gydraddoldeb o ran priodas ac rydym wedi ein cofrestru i gynnal priodasau un rhyw. rydym hefyd wedi cofrestru gyda'r Inclusive Church

​

Rydym yn cydweithio ag eglwysi eraill i gynnal oedfaon ar y cyd a mentrau eraill ac rydym yn croesawu pawb. Mae myfyrwyr prifysgol ac ymwelwyr sydd ar eu gwyliau yn teimlo’n gwbl gartrefol yma, boed eu hymweliad yn fyr neu’n hir.

​

Mae Croeso i Bawb Yma

​

Braslun o’n Hanes

Saif Sant Paul ar yr un safle ag eglwys Fethodistaidd Morfa Mawr gynt, sef cartref y gynulleidfa Fethodistaidd Saesneg hyd at 1990. Tua diwedd y 1980au, gan fod yr adeilad yn dadfeilio, penderfynwyd ei ddymchwel a chodi adeilad newydd ar yr un safle.

​

Penderfynodd y cynulleidfaoedd Methodistaidd Cymraeg a Saesneg yn y dref ddod at ei gilydd i greu canolfan a fyddai’n gartref i’r ddwy gynulleidfa.

Mae’r capel Wesleaidd Cymraeg ym mhen ucha’r dref ger tŵr y cloc. Trowyd yr adeilad yn dafarn o’r enw The Academy.

​

Agorwyd Canolfan Fethodistaidd Sant Paul yn swyddogol ar ddydd Sadwrn 29 Chwefror 1992.

St Pauls Regular Activities

Gweithgareddau Rheolaidd yn Sant Paul

Payf.jpg

Caffi Talu Fel Y Dymunwch

Dydd Mawth & Dydd Iau

11:00yb - 2:00yp

Dysgu Mwy

Lighthouse Stay and Play Facebook Cover.jpg

Goleudy Aros a Chwarae

Fel y’u hysbysebir

​

Dysgu Mwy

Tuesday Friendship

Grŵp Cyfeillgarwch

Y dydd Mawrth 1af a’r 3ydd

2:30yp - 3:30yp

​

Image by Myriam Zilles

Man Agored

Nos Sul Tymor Amser

5:00yp - 6:00yp

Dysgu Mwy

Art.jpg

Grŵp Celf Dydd Gwener

Dydd Gwener 1af yn y mis

2:00yp - 4:00yp

​

Image by MD Duran

Gweithgareddau i Fyfyrwyr

 

​

Dysgu Mwy

Friday Night Games.jpg

Noson Gemau Dydd Gwener

Nos Wener Tymor Amser

7:00yp - 9:00yp

Dysgu Mwy

Reading Bible

Astudiaeth a Gweddi

 

​

Dysgu Mwy

Cysylltu

Canolfan Fethodistaidd

Sant Paul

Morfa, Aberystwyth,

Ceredigion, SY23 2NN

01970 626703

(Swyddfa ar Agor Dydd Mawrth a Dydd Iau)

Cyhoeddiadau

Tanysgrifiwch i dderbyn ein Cyhoeddiadau bob wythnos ac fe gewch ein holl newyddion diweddaraf drwy e-bost bob penwythnos.

​

I roi eich enw ar y rhestr er mwyn derbyn ein Cyhoeddiadau, cliciwch y botwm isod neu cysylltwch â’r swyddfa.

Llogi Ystafelloedd

Mae Canolfan Fethodistaidd Sant Paul yn cynnig nifer o ystafelloedd a llefydd cynnes, hygyrch y gallwch eu llogi.

​

Croeso i chi fwcio yn achlysurol neu’n rheolaidd

 

Bwcio Ystafell neu

Am Wybodaeth Bellach

bottom of page