Addoli yn
ein capeli
Sant Paul
Oedfa’r Bore - Saesneg
Arweinir yr addoliad gan Weinidog neu Bregethwr Lleol, gyda chymorth Arweinydd Addoliad ar adegau. Defnyddir gwahanol arddulliau ar gyfer addoli, yn ymlacedig neu’n ffurfiol. Bydd digon o emynau/caneuon bob amser, a gweinyddir y Cymun Bendigaid unwaith y mis. Fel rheol bydd te a choffi yn y cyntedd yn dilyn yr oedfa.
Oedfa’r Bore – Cymraeg
Arweinir yr addoliad gan Weinidog neu Bregethwr Lleol a hefyd aelodau’r gynulleidfa weithiau. Cynulleidfa fach ond cyfeillgar yw hon a byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes.
Man Agored
Addoliad anffurfiol, modern a bywiog fydd yn gwneud i chi feddwl, gyda bwyd yn cael ei gynnig. Bydd pobl yn eistedd o amgylch byrddau yn ystod y gwasanaeth ac felly mae digon o gyfle ar gyfer cymdeithas a sgwrs. Wedi’i anelu at fyfyrwyr ond mae croeso i bawb!
​
Gwasanaethau Taizé
Cynhelir y rhain ychydig o weithiau y flwyddyn. Gwasanaeth o weddi syml gyda digon o ddistawrwydd a chyfle i fyfyrio. Rydym yn defnyddio siantiau a cherddoriaeth Cymuned Taizé i’n helpu i addoli. Cyfeiliant ar y delyn fel rheol.
Sant Thomas
​
Oedfa'r Bore - Saesneg
Arweinir yr addoliad gan Weinidog neu Bregethwr Lleol, gyda chymorth Arweinydd Addoliad ar adegau. Defnyddir gwahanol arddulliau ar gyfer addoli, yn ymlacedig neu’n ffurfiol. Bydd digon o emynau/caneuon bob amser, a gweinyddir y Cymun Bendigaid unwaith y mis. Bydd te a choffi bob amser yn dilyn yr oedfa.
Ar-lein
We have a YouTube channel where you can view previous services. We had a break for a while but we are now recording the Sunday Morning service in St Paul’s and making it available in the ensuing week for those unable to attend in person.
​​
Sianel YouTube​