
Cynhwysiant
Mae Cylchdaith Fethodistaidd Ceredigion yn cydnabod, nid yn unig bod pob unigolyn wedi ei greu yn unigryw ar lun a delw Duw, ond bod pawb â’r un gwerth a phwysigrwydd o fewn teulu Duw, ein cylchdaith ni ac yn ein cymunedau.
Mae ein cylchdaith yn parchu POB agwedd ar BAWB gan gynnwys hil, ethnigrwydd, ffydd, rhywedd, hunaniaeth, cyfeiriadedd, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl neu gorfforol, amgylchiadau teuluol, cefndir cymdeithasol neu economaidd, oedran, gallu a maint.
Rydym yn ceisio bod yn eglwys gwbl gynhwysol lle mae pawb, gan gynnwys y rhai sy’n uniaethu fel LHDTCRhA+, yn teimlo ac yn canfod fod ein capeli yn llefydd diogel a chroesawus.
Mae ein cylchdaith wedi ymrwymo i gydraddoldeb o ran priodas ac mae’r ddau gapel (Sant Paul Aberystwyth a Sant Thomas Llanbedr Pont Steffan) wedi eu cofrestru i gynnal priodasau un rhyw.
Rydym hefyd wedi cofrestru gydag Inclusive Church
Gan fod gennym ymrwymiad parhaus i gydraddoldeb a chynhwysiant yn holl waith
ac addoliad ein heglwysi, rydym ymhlith pethau eraill yn cynnal gwasanaeth cofio
yn Sant Paul ar gyfer Diwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol, a gwasanaethau Sul
Eglwys Gynhwysol yn Sant Paul a Sant Thomas.
Mae Cylchdaith Ceredigion wedi penodi swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a
Chynhwysiant ac rydym hefyd yn cyflogi Gweithiwr Maes a
Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwaith yr
unigolyn yma yw datblygu cenhadaeth, gweinidogaeth a chefnogaeth fugeiliol yng
Nghylchdaith Ceredigion ymhlith pobl sy’n uniaethu fel Niwroamrywiol, LHDTCRh+ ac ymhlith y gymuned Cyfrannu i Rannu yn Sant Paul.
Ceisiwn greu amgylchddd lle bydd pob aelod, ffrind neu ymwelydd, a phawb y deuwn i gysylltiad ag ef, yn cael ei barchu, ei werthfawrogi a’i groesawu am yr hyn ydyw.
